Croeso
Fferm fechan ar gyrion pentref Efailnewydd yw Llwyn Beuno, ble mae darn o'r ty yn cael ei neilltuo ar gyfer uned wyliau hunan ddarpar. Mae mewn ardal wledig, 2.5 milltir o dref farchnad Pwllheli, ac yn gyfleus iawn i rywun sydd am grwydro o gwmpas Llyn ac Eryri. Nid yw’n bell ychwaith o draethau a llwybrau’r arfordir nac o’r mynyddoedd.
Bydd ein gwefan yn rhoi gwybodaeth i chi am y canlynol:-
- Manylion am y ty fferm sy’n cysgu mwyafrif o 5 person.
- Sut i wneud ymholiad ar-lein.
- Gwybodaeth ddefnyddiol.
- Dod o hyd i ni.
- Pethau i’w gweld ac i’w gwneud ym Mhenrhyn Llyn.
- Manylion prisiau.
- Negeseuon o'r Llyfr Gwesteion
Lluniwyd ein gwefan gyda’r bwriad o gynnwys yr holl wybodaeth gefndir sydd arnoch ei hangen er mwyn trefnu’ch ymweliad. Ond os hoffech gael mwy o fanylion mae croeso i chi gysylltu â ni.
Diolch i chi am ymweld â’n gwefan. Gobeithio ei bod wedi bod yn ddefnyddiol ac edrychwn ymlaen i’ch cyfarfod fel gwesteion.